Telerau ac Amodau

Telerau sydd ynghlwm â defnyddio’n gwasanaethau

Yn yr amodau hyn ystyr “y cleient” yw’r unigolyn neu’r cwmni sydd wedi cytuno i dderbyn gwasanaethau Jared Pegler yn masnachu fel Jared Pegler Designs, wedi hyn cyfeirir ato fel “Jared Pegler Designs”. Mae’r “danfonadwy” yn golygu’r gwasanaethau a’r gwaith a bennwyd yn yr amcangyfrif i’w danfon gan Jared Pegler Designs i’r cleient.

Ffioedd

Ar gyfer pob prosiect, bydd y cleient yn derbyn amcangyfrif electronig neu gopi caled yn amlinellu brîff y prosiect. Bydd unrhyw waith a amlinellir yn dechrau wedi i’r cleient gymeradwyo’r amcangyfrif, yn ysgrifenedig neu ar lafar. Mae amcangyfrif yn ddilys am 30 diwrnod o’r dyddiad a bennwyd ar y ddogfen. Wrth dderbyn neu gymeradwyo’r amcangyfrif, rydych yn cytuno i fynd i gytundeb gyda Jared Pegler Designs ac yn derbyn yr amodau sydd wedi’u hamlinellu yn y Telerau a’r Amodau hyn.

Talu

Oni chytunwyd fel arall mewn ysgrifen gan Jared Pegler Designs, bydd yn rhaid i bob cleient dalu 30% o gost y prosiect (pan mae’r cyfanswm yn £500 neu fwy) cyn y gall y gwaith ddechrau, ac mae’r gweddill yn ddyledus wedi cael cymeradwyaeth y cleient. Rhaid talu am bob deunydd printiedig yn llawn cyn cael ei argraffu. Yn ychwanegol, mae pob datblygu a dylunio gwe yn gofyn am dâl llawn cyn cael ei roi mewn ffolder gwefan gyffredinol sydd ar gael i’r cyhoedd.

Mae tâl gwasanaeth misol o 2% yn daladwy ar unrhyw weddill gorddyledus. Y cleient fydd yn gyfrifol am ffioedd casglu neu gyfreithiol a godir yn sgil taliadau hwyr neu ddiffygdalu.

Ystyrir fod pob danfonadwy yn gyflawn unwaith bod y cleient wedi arwyddo am neu gymeradwyo’r gwaith neu wedi dweud eu bod yn fodlon, naill ai ar lafar, mewn ysgrifen, drwy e-bost neu’r post. Os nad yw’r cleient yn cyfathrebu â Jared Pegler Designs am gyfnod o fwy na 30 diwrnod heb eglurhad, bernir fod y prosiect yn foddhaol ac yn gyflawn.

Mae’r blaen-dâl a delir i Jared Pegler Designs yn talu am gost dylunio, ymchwil neu waith paratoawl fel yr ystyrir y bo angen, yn ogystal ag unrhyw waith gweinyddol a chyfathrebu â Jared Pegler Designs. Ni ellir ad-dalu’r blaendal.

Gall swm yr anfoneb derfynol amrywio gan uchafswm o 10% o bob elfen a amlinellwyd yn yr amcangyfrif gwreiddiol oherwydd costau nas rhagwelwyd. Os bydd y cleient yn penderfynu diwygio neu newid y brîff gwreiddiol, bydd angen amcangyfrif diwygiedig ar gyfer y gwaith arfaethedig, a rhaid cymeradwyo dechrau newidiadau o’r fath drwy gyfrwng electronig, post neu ar lafar.

Gellir talu mewn arian parod, siec, trosglwyddiad banc neu PayPal®.

Os dychwelir siec, bydd ffi ychwanegol o £50 am bob siec a ddychwelir. Mae Jared Pegler Designs yn cadw’r hawl i ystyried fod cyfrif heb ei dalu os yw siec yn cael ei dychwelyd.

Addasiadau

Oni ddarperir fel arall yn yr amcangyfrif bydd yn rhaid i’r cleient dalu’n ychwanegol am newidiadau y gofynnwyd amdanynt gan y cleient sydd y tu allan i gwmpas yr amcangyfrif gwreiddiol neu amcangyfrifon dilynol ar sail amser a deunyddiau. Codir am y rhain ar gyfradd safonol Jared Pegler Designs o £40 yr awr. Bydd taliadau o’r fath yn ychwanegol at y symiau eraill sy’n daladwy o dan yr amcangyfrif ac fe’u cynhwysir yn swm yr anfoneb derfynol.

Gwallau ac esgeulustod

Cyfrifoldeb y cleient yw gwirio’r proflenni’n ofalus i sicrhau eu bod yn gywir. Nid yw Jared Pegler Designs yn atebol am wallau, megis gwallau teipio neu gam-sillafu a rhaid i’r cleient ysgwyddo cost cywiro gwallau o’r fath p’un ai y’u cyflenwyd yn electronig neu â llaw. Y cleient yn unig fydd yn talu am gost newidiadau a/neu ail-gyflenwi nwyddau diriaethol fel deunydd printiedig.

Achredu

Mae Jared Pegler Deisgns yn cadw’r hawl i atgynhyrchu, cyhoeddi ac arddangos y danfonadwy yn ei bortffolios a gwefannau, ac mewn orielau, cyfnodolion dylunio a chyfryngau eraill neu arddangosiadau at ddibenion cydnabod rhagoriaeth greadigol neu hyrwyddo proffesiynol, a chael ei nodi fel awdur y danfonadwy mewn cysylltiad â defnyddiau o’r fath cyn cael cytundeb ysgrifenedig ymlaen llaw.

Gwasanaethau Argraffu

Gwneir pob ymdrech resymol i gael yr atgynhyrchiad lliw gorau i waith y cwsmer ond mae amrywiad yn rhan annatod o’r broses argraffu a deellir a derbynnir yn rhesymol nad oes gofyn i Jared Pegler Designs warantu union gydweddiad mewn lliw neu wead rhwng llun gan y cwsmer, sleid, proflen, ffeil graffeg electronig, deunydd a argraffwyd yn flaenorol neu unrhyw ddeunyddiau eraill a roddwyd gan y cwsmer a’r erthygl brint sy’n destun archeb y cwsmer.

Gwe-Letya

O fewn rheswm, ac eithrio amgylchiadau nas gwyddys amdanynt neu force majeur, bydd Jared Pegler Designs yn cynnal eich pecyn a’ch gwasanaeth gwe-letya, ac yn cywiro unrhyw broblemau os credir fod angen. Codir am newidiadau i’r wefan ar y gyfradd fesul awr o waith. Os bernir fod cynnwys gwefan cleient yn anaddas, neu’n cynnwys meddalwedd, cerddoriaeth, ffotograffau, sgriptiau gwe-rwydo, neu ddeunydd arall sy’n debygol o gael effaith andwyol ar eraill, gall Jared Pegler Designs derfynu neu atal cyfrif y cleient i’w unioni gan y cleient, ar gost y cleient. Bydd peidio â thalu, naill ai fel busnes newydd neu adnewyddu gwasanaethau o fewn cyfnod o 30 diwrnod o ddyddiad yr anfoneb yn arwain at ddiffygdalu, a bydd y gwasanaeth yn cael ei atal heb ad-daliad na hawliad. Ni all Jared Pegler Designs fod yn gyfrifol am unrhyw faterion sy’n codi yn gysylltiedig â’r gwasanaeth gwe-letya y tu allan i’w reolaeth gan drydydd parti neu gyflenwyr Jared Pegler Designs. O dan amgylchiadau o’r fath dylid caniatáu cyfnod o 48 awr i gywiro unrhyw broblemau yn ystod yr wythnos waith (Llun i Wener).

Hawlfreintiau a Nodau Masnach

Mae Jared Pegler Designs yn cadw’r hawlfraint ar yr holl waith dylunio yn cynnwys geiriau, lluniau, syniadau, delweddau gweledol a darluniau oni eu bod wedi’u rhyddhau’n benodol mewn ysgrifen ac wedi setlo pob cost.

Drwy gyflenwi testun, delweddau a data arall i Jared Pegler Designs i’w cynnwys yn neunydd danfonadwy’r cwsmer, mae’r cwsmer yn datgan ei fod yn dal yr hawlfraint briodol a/neu unrhyw ganiatâd nod masnach. Bydd perchnogaeth eiddo o’r fath yn aros gyda’r cwsmer, neu berchennog cyfreithlon yr hawlfraint neu’r nod masnach.

Drwy gyflenwi delweddau, testun neu unrhyw ddata arall i Jared Pegler Designs, mae’r cwsmer yn rhoi caniatâd i Jared Pegler Designs ddefnyddio’r deunydd hwn yn rhydd ar gyfer gwneud y dyluniad.

Pe bai Jared Pegler Designs, neu’r cwsmer yn cyflenwi delwedd, testun neu ddata arall i’w ddefnyddio yn nanfonadwy’r cwsmer gan gredu ei fod yn rhydd o hawlfraint a breindal, ac yna daw i’r amlwg fod yna gyfyngiadau defnydd oherwydd hawlfraint neu freindal, rhaid i’r cwsmer gytuno i adael i Jared Pegler Designs dynnu’r eitem neu roi un arall yn ei lle.

Mae’r cwsmer yn cytuno i indemnio a dal Jared Pegler yn masnachu fel Jared Pegler Deisgns yn rhydd rhag niwed mewn unrhyw a phob hawliad a wneir yn sgil methiant y cwsmer i gael yr hawlfraint angenrheidiol a/neu unrhyw ganiatâd angenrheidiol arall.

Polisi Cyfle Cyfartal ac Amrywiaeth

Diben

Diben y polisi hwn yw cynnig cyfle cyfartal i bawb a gwerthfawrogi amrywiaeth pob un. Mae hyn yn cynnwys ystyried: oed, anabledd, ailbennu rhywedd, beichiogrwydd a mamolaeth, hil, crefydd neu gredo, rhyw, cyfeiriadedd rhywiol, priodas a phartneriaeth sifil, dosbarth cymdeithasol, cyfrifoldebau gofalu, statws HIV neu unrhyw nodwedd unigol arall. Rydym yn gwrthwynebu pob ffurf o erledigaeth a gwahaniaethu yn cynnwys gwahaniaethu uniongyrchol, anuniongyrchol, cysylltiedig ac ymddangosiadol. Bydd Jared Pegler Designs yn sicrhau nad oes neb yn cael ei drin yn llai ffafriol am resymau sy’n gysylltiedig â nodwedd warchodedig. Mae gan bawb yr hawl i weithio mewn amgylchedd sy’n rhydd rhag aflonyddu a bwlio ac rydym wedi ymrwymo i ddatblygu a chynnal diwylliant gweithio sy’n hyrwyddo urddas a pharch. Bydd Jared Pegler Designs yn gweithio o fewn yr holl ofynion statudol sy’n ymwneud â chyfle cyfartal, yn cynnwys: Deddf Cydraddoldeb 2010, Deddf Cydnabod Rhyw 2004, Deddf Hawliau Dynol 1998. Mae ymrwymo i gyfle cyfartal yn y gweithle yn arfer rheoli da ac yn gwneud synnwyr busnes cadarn.

Gweithredu a Chyfrifoldebau

Mae er budd y cwmni a’r cwsmeriaid fel ei gilydd i ddefnyddio sgiliau pawb ac estyn allan i unigolion i chware eu rhan mewn hyrwyddo cydraddoldeb ac amrywiaeth. Bydd hyn yn cynnwys bod yn ymwybodol o sut rydym yn ymddwyn tuag at bobl eraill a gwneud yn siŵr na all ein hymddygiad ymddangos fel gwahaniaethu, aflonyddu neu fwlio.

Ymhellach, mae’r polisi hwn yn cynnwys ein hymrwymiad i ddarparu gwasanaethau, sy’n gwella hygyrchedd er mwyn sicrhau cydraddoldeb i ddefnyddwyr ein gwasanaeth.
Bydd Jared Pegler Designs yn gwneud ymdrech i gefnogi’n cleientiaid yn eu gwaith o ddylunio cynlluniau a nwyddau hygyrch nad ydynt yn gwahaniaethu.

Prif Ffrydio

Mae’r polisi hwn yn sail i holl ddogfennaeth Jared Pegler Designs yn cynnwys y Cynllun Busnes, Adroddiad Blynyddol a gweithgareddau cysylltiedig ac mae’n croesgyfeirio’n benodol at y polisïau, gweithdrefnau a’r canllawiau canlynol; Iechyd a Diogelwch, Recriwtio a Dethol, Cwynion, Hygyrchedd, yr Iaith Gymraeg.

© Jared Pegler Designs 2016